Un

Mae 'Un' yn ystafell eang, smart gyda goleuadau wedi’u cynllunio gan Philippe Starck, a murlun papur wal unigryw. Mae’n cynnig lloriau pren tywyll a gwresogi tanlawr, en-suite o garreg naturiol gyda chawod ac iddi lawr cwbl wastad, a golygfeydd o ddyffryn Tywi a’r bryniau tu hwnt. Gwely anferth gyda matres foethus, organig, o gwmni lleol Abaca; gellir hefyd ei threfnu fel ystafell ac iddi ddau wely sengl.

Mae Un yn dipyn o ffefryn gyda’r gohebwyr sydd wedi aros yma – "a room that wouldn't have been out of place in Notting Hill" oedd barn Rhiannon Batten o bapur newydd The Independent on Sunday – tra bod ein gwesteion o’r cylchgrawn SHE wedi nodi ei bod yn "Ultra-glamorous . . . even the beds in our large room were organic and were the comfiest we had ever slept in".

Maint yr ystafell, gan gynnwys yr en-suite: 19m2