Bwcio a Chynigion

Gallwch drefnu lle trwy ddefnyddio ein system bwcio ar-lein neu ffoniwch Eva ar 01558 824733.

Cynnig arbennig – 3 noson am bris 2

Arhoswch am 2 noson (yn cyrraedd Sul, Llun, Mawrth) ac arhoswch am 3edd noson am ddim.

Blaendal

I sicrhau trefniant, bydd angen talu blaendal sy'n cyfateb i bris y noson gyntaf (ar gyfer pob ystafell yn y trefniant). Os ydych yn bwcio ar-lein, gofynnir i chi dalu'r blaendal yma trwy ddefnyddio PayPal.

Polisi Canslo

Ein polisi canslo yw tâl llawn os ceir 7 diwrnod o rybudd, a 50% o'r tâl os ceir rhwng 7-14 diwrnod o rybudd. Fodd bynnag, yn ddewisol, mae'n bosib y gwnawn ni leihau'r tâl canslo yn rhannol os llwyddwn i lenwi'r ystafell/oedd am ran o'r cyfnod, ac os llwyddwn i lenwi'r ystafell/oedd am y cyfnod cyfan ni fyddwn yn codi tâl canslo o gwbl. Rydym yn awgrymu eich bod yn trefnu yswiriant teithio rhag i chi orfod canslo oherwydd sefyllfaoedd annisgwyl.

Mynediad

Yn Fronlas rydym yn gwneud pob ymdrech i ddarparu mynediad rhwydd i’n holl westeion, ac i’r perwyl hwnnw rydym wedi cynhyrchu taflen mynediad. Os hoffech ragor o fanylion, mae croeso i chi gysylltu ag Eva ar +44 (0)1558 824733 neu trwy e-bost, [email protected]