Pedair ystafell wely unigryw

Cewch orwedd mewn cysur ar ddillad gwely o gotwm organig a matres foethus, organig o gwmni lleol Abaca, ac ymlacio’n llwyr ym moethusrwydd yr ystafelloedd ymolchi en-suite o garreg naturiol. Ewch i’r lolfa i swatio o flaen tân coed, ar gelfi cyfoes o waith Angela Gidden, y cynllunydd o Gaerdydd. Agorwch botel o’r bar, a throi at y llyfr hwnnw rydych wedi bwriadu ei ddarllen ers tro byd, neu ddewis ffilm o’r casgliad DVD a’i wylio mewn cysur yn eich ystafell fwtîc gyfoes – Un, Dau, Tri neu Pedwar – pob un ohonynt yn cynnwys murlun unigryw, a’r rhan fwyaf yn cynnig golygfeydd dros Ddyffryn Tywi a Bannau Brycheiniog.

Cyfleusterau

Mae pob ystafell yn ddi-fwg, a phob un yn cynnwys murlun o bapur wal unigryw; matres foethus, organig, a wnaed gan gwmni lleol; dillad gwely, tywelion a gynau-gwisgo o gotwm organig; ystafell en-suite foethus, gyda chyflenwad o ddeunyddiau ymolchi moethus REN; deunyddiau i wneud diodydd twym; sychwr gwallt; setiau teledu sgrin-wastad gyda gwasanaeth Freeview; chwaraewr DVD, a lle addas i ddefnyddio gliniadur, gyda mynediad am ddim i Wi-Fi (a does dim problem yma gyda signal ffônau symudol).

Teuluoedd

Er nad oes yna ystafell deulu fel y cyfryw, gellir darparu gwely plygu yn y rhan fwyaf o’r ystafelloedd, i’w defnyddio gan blant yn rhannu gyda rhieni/ gwarcheidwaid ar gost atodol o £15 y noson. Yn anffodus, ni allwn dderbyn plant dan 3 oed, heblaw lle bo un grŵp neu deulu yn llogi pob un o’r ystafelloedd, neu ar drefniant hunan-arlwyo.

"Check in at Fronlas, where Eva Huw has put together a fittingly classy quartet of bedrooms, loved for their striking interiors, REN smellies and extra treats. Huw's green credentials are as spotless as her housekeeping: even the mattresses are organic" – The Sunday Times