
Cewch orwedd mewn cysur ar ddillad gwely organig a matres organig o waith cwmni lleol Abaca ac ymlacio ym moethusrwydd yr ystafelloedd ymolchi en-suite. Ymlaciwch yn y lolfa ar gelfi o waith Angela Gidden, y cynllunydd o gwmni Attic 2 yng Nghaerdydd, o flaen tân coed – agorwch botel o’r bar a throi at y llyfr hwnnw rydych wedi bwriadu ei darllen ers tro byd neu dewiswch ffilm o’r llyfrgell dvd, a’i gwylio ar deledu digidol sgrin-wastad yn eich ystafell bwtîc cyfoes – un, dau neu tri – gyda phapur wal wedi ei gynllunio'n arbennig.
"The tiny Brecon Beacons market town of Llandeilo, with its mini-break friendly collection of individual shops, boutiques, delis and cosy pubs, is a very well-kept secret and Fronlas is possibly the jewel in its crown"
The Best 50 B&Bs – The Independent, Mai 2009