
Mae tref liwgar Llandeilo ym ymhyfrydu yn ei chasgliad o siopau bwtîc sydd ymhlith y gorau yng Nghymru. A chyda’r enw da sydd yna i dai bwyta a delicatessens Dyffryn Tywi, y bwyd lleol megis Ham Caerfyrddin a chawsiau a chwrw lleol, mae’n fan delfrydol i bawb sy’n mwynhau bwyta’n dda. Yn Nyffryn Tywi, ar gyrion Bannau Brycheiniog, mae digonedd o gyfleoedd ar gyfer pob math o weithgareddau awyr agored – beicio a cherdded, a hyd yn oed teithio mewn balŵn aer-twym.
Mae’n hawdd gweld hefyd pam y gelwir Sir Gaerfyrddin yn Ardd Cymru – mae Parc a Chastell Dinefwr o fewn taith 10 munud o gerdded, gyda Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, Gerddi Aberglasney a Chastell Carreg Cennen o fewn taith fer yn y car neu ar y beic. Am fanylion pellach am y dref, gan gynnwys clipiau fideo o nifer o'i atyniadau, beth am ymweld â gwefan 'Y Dref Gymreig'.
"Llandeilo has just about everything... a branch of fashion store Toast, there's a local chocolatier, and cosy pubs proliferate. It even boasts a swish new organic B&B, Fronlas. If you can drag yourself out into the surrounding countryside you'll find nature reserves, ruined castles, river valleys, deer parks and the National Botanic Garden of Wales "
20 top rural escapes in the UK – The Guardian, Gorffennaf 2008