Dianc i dawelwch Bannau Brycheiniog

Fronlas – llety bwtîc yn cynnig gwely a brecwast mewn tŷ Edwardaidd cysurus yn nhref Llandeilo, Sir Gâr.

Cynlluniwyd pob un o’r pedair ystafell ffasiynol mewn dull unigryw, ac maent i gyd yn cynnwys murlun o bapur wal unigryw, set deledu sgrin-wastad, chwaraewr DVD, Wi-Fi am ddim, a matres foethus, organig, o gwmni lleol. Yn ogystal, mae bron pob ystafell yn cynnig golygfa hyfryd o Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yn y bore, cewch fwynhau brecwast blasus Eva wedi’i wneud o’r cynhwysion organig gorau, a’r rheiny dod o ffynonellau lleol.

O’i safle delfrydol ar graig uchel uwchben Dyffryn Tywi ar ffin orllewinol Bannau Brycheiniog, mae tref farchnad ddeniadol Llandeilo yn enwog am ei rhesi o dai lliwgar, ei siopau bwtîc a’i chaffis, ac mae Parc Dinefwr (dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) a Pharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog o fewn pellter cerdded.


Read The Good Hotel Guide review