
"From its hill-top vantage point on the northern bank of the River Tywi, Llandeilo in west Wales overlooks some of the most serene views Wales has to offer" – BBC Homes & Antiques

"The town of Llandeilo has just about everything you could wish for. Shops include a branch of fashion store Toast, there's a local chocolatier, and cosy pubs proliferate" – The Guardian

Nodwedd o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru yw Tŷ Gwydr enwog Norman Foster – y tŷ gwydr â’r to un-rhychwant mwyaf yn y byd

Parc Dinefwr, eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, gyda Chastell Dinefwr a Thŷ Newton – dim ond taith 10 munud o gerdded o Fronlas

Castell Carreg Cennen, ar erchwyn clogwyn 100m o uchder ym Mannau Brycheiniog

Ban Caerfyrddin yn y Bannau gorllewinol

Traeth Llansteffan, ar aber afon Tywi

Mae’r barcud coch wedi hen ymgartrefu yma, a gwelir yr adar hynod hyn yn aml yn hofran dros Ddyffryn Tywi
Mae tref fechan Llandeilo, a’i rhesi serth o dai lliwgar yn glwstwr deniadol o amgylch yr eglwys hynafol, yn gyrchfan boblogaidd iawn i bawb sy’n hoffi siopa. Mae’r Gymraeg i’w chlywed ar y strydoedd, ac yn y siopau a’r llefydd bwyta, felly byddwch yn sicr o deimlo’n gartrefol wrth grwydro o amgylch y dref. Am fanylion pellach am y dref beth am ymweld â gwefan 'Y Dref Gymreig'.
"Gardd Cymru" yw’r enw a roddir ar Sir Gâr, nid yn unig oherwydd ei harddwch naturiol ei hun, ond hefyd oherwydd ei hatyniadau garddwriaethol – pob un ohonynt o fewn cyrraedd rhwydd mewn car neu ar feic o Fronlas. Gardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, a agorwyd yn 2000, oedd yr ardd fotaneg gyntaf i’w chreu ym Mhrydain mewn dros 200 mlynedd. Canolbwynt yr ardd yw’r Tŷ Gwydr ysblennydd, a gynlluniwyd gan Norman Foster – y tŷ gwydr â’r to un-rhychwant mwyaf yn y byd. Mae gerddi ‘coll’ Aberglasney yn cynnig profiad gwahanol, ond yr un mor drawiadol.
Mae hanes hefyd yn dod yn fyw yn yr ardal, gyda Pharc a Chastell Dinefwr – sydd dan ofal yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol – o fewn taith gerdded 10 munud o Fronlas. Mae Dinefwr yn safle pwysig yn hanes Cymru, gan iddo fod ar un adeg yn ganolfan tywysogion Cymreig y Deheubarth. Saif mewn parc ysblennydd, sy’n gartref i dros 100 o geirw a gyr o wartheg gwynion hynod brin. Ymhellach i lawr Dyffryn Tywi, i gyfeiriad Caerfyrddin, mae Castell Dryslwyn, ac yn y cyfeiriad arall, gyda’r Bannau’n gefndir iddo, prin fod yna unrhyw gastell yn Ewrop wedi’i adeiladu mewn lleoliad mwy dramatig na Chastell Carreg Cennen, ar erchwyn clogwyn 100m o uchder.
Mae Llandeilo yn falch o’r enw sydd ganddi am fod yn ganolfan i nifer o fwtîcs hyfryd. Gan ddechrau yn Scorpio ar ben uchaf Heol y Brenin, fe welwch nifer o’r eitemau a ddefnyddir yn Fronlas, yn cynnwys blancedi a chlustogau Melin Tregwynt. I lawr yr heol mae siop lloriau pren Broadleaf, a nwyddau i’r cartref yn Towy Interiors a Peppercorn – siop wych lle gallwch brynu pob teclyn posib i’r gegin. Mae’r dewis eang o siopau ffasiwn yn cynnwys Toast, siop esgidiau Heel Appeal, lingerie Bellissimo a bwtîc priodasol Huw Rees. Os am drefniannau blodau cyfoes a bwydydd organig, mae dewis eang yn Pinc – ac am foethusrwydd pur, galwch yn Nefol, siop siocledi a hufen iâ cartref Llandeilo.
Os ydych yn chwilio am anrheg unigryw, mae Bentley & Co yn gwerthu gemwaith cyfoes; cewch ddewis da o nwyddau persawrus moethus yn Seren Luxe; gellir darganfod nifer o anrhegion o Trizaro a Nyth y Gwcw; a cheir anrhegion a dillad plant yn Eve's Toyshop ac Igam-Ogam.