7 Heol Tomos
Llandeilo SA19 6LB

01558 824733
[email protected]

I fwynhau’r awyr agored, camwch allan drwy’r drws...

Prin bod angen dweud bod hon yn ardal wych i fwynhau gweithgareddau awyr agored, gyda rhywbeth yn addas ar gyfer pob gallu. Yn Fronlas mae yna ddewis eang o fapiau OS, ac arweinlyfrau a thaflenni’n disgrifio teithiau cerdded a beicio, a phan gyrhaeddwch yn ôl mae yna le i olchi’r beic a glanhau eich esgidiau, lle diogel i storio’ch offer a’ch beic, a lle i sychu’ch gêr. Ac i wneud yn siŵr bod gennych ddigon o egni, gallwn baratoi tocyn bwyd organig sylweddol i chi (rhowch wybod i ni ddiwrnod o flaen llaw).

Mynd am dro

Mae digon o ddewis – o dro bach hamddenol o amgylch Parc Dinefwr i daith anturus 18-milltir dros Bannau Sir Gâr ym Mannau Brycheiniog. Am daith hamddenol ar fore Sul, efallai, ewch i Garn Goch (236m / 775 tr) – bryngaer fawr yn dyddio o Oes yr Haearn, ger pentref bychan Bethlehem, ychydig filltiroedd i’r gogledd o Landeilo. Oddi yno ceir golygfeydd bendigedig o Ddyffryn Tywi a’r wlad am filltiroedd o gwmpas. Mae yma garreg goffa i’r diweddar Gwynfor Evans, cyn-lywydd Plaid Cymru, ac Aelod Seneddol cyntaf y Blaid.

Ar eich beic

Lonydd gwledig, tawel; llwybrau beicio mynydd; coedwigoedd a golygfeydd dramatig o Ddyffryn Tywi a Bannau Brycheiniog – dyna sy’n gwneud Fronlas yn lle gwych i dreulio gwyliau beicio. Am lwybrau cyffrous, ewch i goedwig Brechfa, neu fynd â’ch beic ar y trên i Fannau Brycheiniog neu Lwybr Arfordirol y Mileniwm, lle gallech feicio i Barc Gwledig Pen-bre a thraeth eang, hyfryd Cefn Sidan. Os nad ydych yn awyddus i ddod â’ch beic eich hun, mae gennym drefniant gyda chwmni Towy Valley Cycles yn Llangadog, a fyddai’n fodlon dod â beic/iau atoch i Fronlas.

Taith mewn balŵn!

Mae cwmni Floating Sensations yn cynnig teithiau bythgofiadwy dros yr ardal mewn balŵn aer-twym, ac fe welwch un yn aml dros Landeilo a Dyffryn Tywi ar noswaith braf o haf.