Fronlas yn ecsgliwsif – yn cynnwys sinc y gegin!

Gellir llogi Fronlas ar drefniant hunan-arlwyo. Mae’r tŷ cadarn Edwardaidd yn cynnwys pedair ystafell ddwbl en-suite, sy’n cysgu hyd at 8 oedolyn yn gyfforddus, a hyd at 3 phlentyn ar welyau plygu sy'n ddelfrydol ar gyfer aduniad teuluol, neu i ddathlu rhyw achlysur arbennig gyda grŵp o ffrindiau.

Mae’r llawr isaf cyfan yn cynnwys gwresogi tanlawr, ac ar y llawr hwnnw y mae un o’r ystafelloedd gwely, y lolfa, yr ystafell fwyta a’r gegin drawiadol agored, sef calon y cartref, sy’n agor allan i’r ardd a’r patio llechen. Mae’r gegin yn cynnig pob cyfleuster – stof goginio fawr, peiriant golchi llestri, oergell/rhewgell eang a sinc ddwbl, ac y mae yna hefyd ystafell ar wahân ar gyfer y peiriannau golchi a sychu. Mae drysau dwbl yn agor o’r gegin i mewn i’r ystafell fwyta, a cheir drws o’r cyntedd yn arwain i’r lolfa, gyda’i soffa fawr gyfforddus, tân coed, teledu a chwaraewr DVD, bar gonest a chasgliad o lyfrau, gêmau a DVDau. Mae yna hefyd fynediad am ddim i wasanaeth Wi-Fi.

 

Prisiau ac Argaeldd Llety Hunan-arlwyo

Nodwch taw dim ond ar gyfnodau pan nad oes unrhyw drefniadau gwely a brecwast y mae Fronlas ar gael ar gyfer trefniadau hunan-arlwyo. Mae penwythnosau hir (Gwe-Llun) a gwyliau byr yn ystod canol yr wythnos (Llun-Gwe) yn amrywio o £500 i £650, gyda chynigion arbennig ar gael ar gyfer dyddiadau penodol. Am fanylion pellach cysylltwch â Eva ar 01558 824733.

Cynigion Arbennig 2012
Gwener, 22 Mehefin-Gwe, 29 Mehefin – £750
Gwener, 31 Awst-Llun, 3 Medi – £500

"For a relaxing gathering with loved ones, why not book out a whole hotel?...this Edwardian escape in the shadow of the Brecon Beacons.

It's in Llandeilo, a transition town with lots of trendy delis and artisan shops. Fronlas takes the style and adds some eco-substance – solar-powered underfloor heating, organic mattresses, guaranteeing guilt-free snoozing. And there's a log fire to aid recovery from cobweb-clearing mountain climbs."
– The Sunday Times