Fronlas, Llandeilo
Cartref
Ystafelloedd
Bwyd a Diod
O'n Cwmpas
Diwylliant
Adolygiadau
Bwcio Ar-Lein
english

Ffasiynol a gwyrdd

Rydym yn byw mewn ardal arbennig o hardd, ac mae’n holl bwysig i ni ein bod yn lleihau’r effaith a gaiff twristiaeth ar ein hamgylchedd. Yn ogystal â defnyddio bwyd organig o ffynonellau lleol, cymerwyd camau breision yn ystod y gwaith o ddatblygu Fronlas i leihau’r carbon a gynhyrchir – yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r trydan a ddefnyddir yn 100% wyrdd, a’r paneli solar yn cyfrannu at gynhesu’r dwr a’r gwresogi tanlawr; defnyddir matresi gwely organig a gynhyrchir yn lleol a dillad gwely a thywelion organig; defnyddir peiriannau trydan graddfa ‘A’ trwy Fronlas; a caiff papur, plastig, metel a gwydr ei ailgylchu a defnyddir gwastraff bwyd i wneud compost.

I hybu'r defnydd o drafnidiaeth gyhoeddus wrth deithio i Fronlas, rydym yn cynnig bocs o siocledi lleol o siop Nefol yn Llandeilo i westeion sy'n teithio i Landeilo ar drên neu fws. Mae’r daith ar y trên o Abertawe yn cymryd ychydig dros awr, a thua dwy awr o Gaerdydd.

(h) 2010 Fronlas, Llandeilo