
Trwy gydol ei hanes cyfrannodd Sir Gâr yn helaeth i dreftadaeth ddiwylliannol Cymru. Yn wir, mae un o’r enghreifftiau cyntaf o destun Cymraeg i’w gweld mewn llawysgrif Ladin a gynhyrchwyd yn Llandeilo yn yr 8fed ganrif – mae fersiwn digidol o’r llawysgrif, Llyfr Teilo, bellach i’w weld yn Eglwys Llandeilo. Yn Sir Gâr hefyd y lluniwyd Llyfr Du Caerfyrddin, y llawysgrif hynaf o farddoniaeth Gymraeg, a gyfansoddwyd rhwng y 9fed a’r 12fed ganrif.
Beth am drip i Abertawe lle ganed Dylan Thomas – yma fe welwch Ganolfan Dylan Thomas, yn ogystal ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau. Dylai unrhyw un sy’n hoff o waith Dylan Thomas ymweld â Thalacharn, lle y cyfansoddwyd llawer o’i weithiau gorau, a Cheinewydd yng Ngheredigion – mae’r ddau le yn honni mai hwy oedd yr ysbrydoliaeth y tu ôl i bentref "Llareggub" (darllenwch ef am yn ôl!) yn “Under Milk Wood” ac maent yn lleoliadau pwysig yn “The Edge of Love”, ffilm am ei fywyd gyda Matthew Rhys, Keira Knightley, Sienna Miller ac, wrth gwrs, Huw Ceredig.