Llety Gwestai 5-seren Croeso CymruGwasanaeth Cymraeg ar gael yma

7 Heol Tomos
Llandeilo
Sir Gaerfyrddin
SA19 6LB. Cymru


+44 (0)1558 824733
post@fronlas.com

Christmas at Fronlas, 2008
Cartref
Ystafelloedd
Bwyd a Diod
O'n Cwmpas
Diwylliant
Adolygiadau
Bwcio Ar-Lein
Cynigion Munud Olaf
View site in English

Defnydd ecsgliwsif o Fronlas... yn cynnwys sinc y gegin!

Os ydych yn chwilio am lety eang, moethus mewn steil bwtîc, gallwn gynnig defnydd ecsgliwsif o Fronlas ar drefniant hunanarlwyo ar nifer cyfyngedig o wythnosau'r flwyddyn. Mae gan y tŷ Edwardaidd hwn bedair ystafell ddwbl en-suite (gyda gwelyau plygu ychwanegol ar gyfer plant lle bo angen), pob un â set deledu sgrin-wastad a chwaraewr dvd; cegin/ystafell frecwast agored gyda ffwrn ac oergell fawr, peiriant golchi llestri, a sinc ddwbl, draddodiadol; ystafell i olchi a sychu dillad;  dwy lolfa, un gyda stôf bren, a gardd gyda phatio. Os dymunwch, gallwn drefnu i lenwi’r oergell â danteithion organig erbyn i chi gyrraedd.