Cynlluniwyd yr ystafelloedd gan gwmni Colliss & Quinton Interior Design. Fe welwch eitemau gan gynllunwyr rhyngwladol megis Alessi, Kartell a BoConcept, yn ogystal â blancedi hyfryd o waith Melin Tregwynt, celfi gan y cynllunydd adnabyddus Angela Gidden o gwmni Attic 2, Caerdydd, mygiau seramig o waith Keith Brymer Jones (ar gael yn unig o Bodlon) a matresi gwely organig, moethus, o gwmni Abaca yn Sir Gaerfyrddin.