
Brecwast organig Fronlas – menyn Calon Wen, llaeth Daioni, iogwrt Rachel’s, wyau Nantclyd, grawnfwyd Lizi’s, jamiau H&P, cig moch/selsig Graig Farm, ac eog o’r Organic Smokehouse

Mae’r Polyn – tafarn-gastro orau Cymru – o fewn ychydig filltiroedd i Fronlas

Mae Dyffryn Tywi’n baradwys i rai sy’n mwynhau bwyd da

Coffi ffres, te, siocled twym a llaeth ffres organig ar gael ym mhob ystafell – wedi eu gweini mewn mygiau 'Coffi' Keith Brymer Jones ar gael gan bodlon.com
Rydym yn gwneud pob ymdrech i ddefnyddio dim ond y cynhwysion organig gorau, mwyaf ffres, a’r rheiny’n dod o ffynonellau yng nghanolbarth a gorllewin Cymru; rydym hefyd yn ceisio prynu cymaint ag y gallwn yn uniongyrchol o’r cynhyrchwyr er mwyn lleihau’r milltiroedd bwyd.
Yn ogystal â brecwast Cymreig llawn Eva, gyda chig moch a selsig Graig Farm, rydym hefyd yn cynnig brecwast cyfandirol a dewisiadau ysgafnach megis wyau wedi’u sgramblo gydag eog wedi’i fygu, a brecwast llysieuol/fegan blasus. Os ydych yn dioddef o unrhyw alergedd, gadewch i ni wybod ymlaen llaw – gallwn hyd yn oed bobi bara heb glwten ynddo, a chynnig dewisiadau nad ydynt yn cynnwys llaeth.
Mae pobl yn tyrru i Sir Gaerfyrddin i fwynhau’r amrywiaeth o fwydydd a gynhyrchir yno: ham Caerfyrddin, cawsiau o bob math, a physgod ffres yn cynnwys sewin a brithyll o afon Tywi, yn ogystal â chocos o dywod yr aberoedd. Yn Llandeilo mae yna gwmni lleol, Nefol, sy’n enwog am ei siocled a’i hufen iâ unigryw; tri deli ardderchog (yn cynnwys Pinc, lle rydym yn prynu nifer o’n bwydydd ar gyfer brecwast, yn cynnwys yr holl ffrwythau a llysiau organig) a thri chigydd annibynnol.
Mae yna ddewis da o lefydd bwyta yn yr ardal, yn cynnwys y Polyn yn Nantgaredig, y Llew Coch yn Llangadog, a Valans yn Llandybïe. A chyda nifer o lefydd yn y dref ei hun – er enghraifft yr Angel a’r Cawdor – does dim rhaid i chi ddefnyddio’r car cyn gallu mwynhau pryd da o fwyd.