
Mae pobl yn tyrru i Sir Gaerfyrddin i fwynhau’r amrywiaeth o fwydydd a gynhyrchir yno. Ham Caerfyrddin, cawsiau o bob math – Caws Dyffryn Cothi, cawsiau organig Perl Las a Perl Wen o Gaws Cenarth, Llanboidy a Nantybwla – pysgod ffres yn cynnwys sewin a brithyllod o ddyfroedd afon Tywi, yn ogystal â chocos o draethau de y sir. Yn Llandeilo mae gwneuthurwr siocledi a hufen-iâ Nefol, dwy siop delicatessen wych a thri chigydd annibynnol, yn cynnwys Dewi Roberts. Mae nifer o roddion unigryw Cymreig i bobl sy'n caru bwyd, gan gynnwys y mygiau 'Coffi' a ddefnyddir yn Fronlas, ar gael ar-lein o gwmni Bodlon.
Rydym yn gwneud pob ymdrech i brynu dim ond y nwyddau gorau a’r mwyaf ffres, a hynny o ganolbarth a gorllewin Cymru lle bo’n bosibl. Mae’r holl gynhwysion brecwast yn organig, ac mae nifer o’r diodydd yn y bar gonest yn rhai a gynhyrchwyd yn lleol – yn Wisgi Brag Sengl Penderyn, Brecon Gin, a Fodca a gynhyrchwyd ym Mannau Brycheiniog.
"For sheer escapism, you can't beat this lovingly restored Edwardian townhouse in the Tywi Valley with views of the Brecon Beacons... organic breakfasts made from the freshest Welsh produce."
25 ways to do Wales in style – The Observer, Awst 2009