Fronlas – croeso cynnes

Mae Fronlas yn falch o’r gwasanaeth y mae’n ei gynnig i’r gwesteion – gwasanaeth personol, ond anymwthiol, gyda gwybodaeth leol ardderchog i’ch galluogi i wneud y gorau o’ch arhosiad. Mae’n adlewyrchu hoffter Eva a’i gŵr Owain o foethusrwydd â chydwybod; lle bo modd, gwneir defnydd helaeth o eco dechnolegau, i leihau’r ôl troed carbon, a daw’r holl fwyd a diod o ffynonellau lleol.

Mae Fronlas yn cynnig awyrgylch cysurus, cartrefol, lle gallwch ymlacio’n llwyr. Mae’r cyfan – o’r manylion yn yr ystafelloedd, y cynllunio a’r celfi cyfoes, y matresi organig a wnaed yn lleol, a’r dillad gwely cotwm moethus, i’r brecwast organig o ffynonellau lleol – wedi eu dewis yn arbennig oherwydd eu safon uchel.

"Fronlas offers a stylish base, with admirable attention to detail, and both town and B&B have a distinctive Welsh charm coupled with a genuinely warm welcome. "Ardderchog" as the Welsh would say. Excellent." – The Independent on Sunday