Eva - Fronlas, Llandeilo
Cartref
Ystafelloedd
Bwyd a Diod
O'n Cwmpas
Diwylliant
Adolygiadau
Bwcio Ar-Lein
english

Amdanom ni

Wedi ei berchen gan deulu ifanc – Eva ac Owain Huw, a'u mab Twm – mae Fronlas yn fan delfrydol i fwynhau arhosiad moethus mewn awyrgylch hamddenol a chyfeillgar. Pan oeddynt yn teithio o amgylch yr ardal yn 2006, syrthiodd y ddau mewn cariad â thref Llandeilo; wrth chwilio am dŷ i’w brynu daethant ar draws Fronlas – tŷ cadarn Edwardaidd mewn stryd dawel yn y dref.

Aethant ati i sefydlu math unigryw o lety gwely a brecwast a fyddai’n adlewyrchu eu brwdfrydedd hwy eu hunain dros gynnig moethusrwydd law yn llaw â chydwybod, gan roi sylw i fanylion ym mhob agwedd o’r busnes. Dechreuwyd ar y gwaith o drawsnewid Fronlas ym mis Mawrth 2007 – agorwyd y drysau i ymwelwyr ychydig dros flwyddyn yn ddiweddarach, ac mae Fronlas eisoes wedi ennill clod fel un o westai bach bwtîc gorau a mwyaf unigryw ynysoedd Prydain.

(h) 2010 Fronlas, Llandeilo