Ers agor ym mis Ebrill 2008, mae Fronlas wedi derbyn llawer iawn o ganmoliaeth gan ein gwesteion ac yn y wasg. Rydym eisoes wedi cael sylw yn The Guardian, The Independent, The Observer, The Western Mail, The Sunday Times, Ideal Home ac mewn nifer o gyhoeddiadau Cymraeg gan gynnwys Golwg, Y Papur Gwyrdd a'r Wawr. Cafodd Fronlas hefyd ei gynnwys ar y gyfres deledu 04Wal: Gwestai'r Byd, ac mewn eitem ar Wedi 7.
Rydym hefyd yn falch iawn o gael ein cynnwys ar wefannau Mr & Mrs Smith, Wales in Style ac i-escape ac wedi derbyn clôd arbennig yn rhifyn 2009 o'r Rough Guide to Wales yn ogystal â'n cynnwys yn The Good Hotel Guide 2010.